top of page

arwyddocad bod yn grynwyr yng nghymru heddiw

Cofleidio noethni ysbrydol; chwilio am y ‘gwir gynefin’ lle nad oes 'na gerpyn i guddio ynddo; chwilio am fod yn glos gydag eraill mewn hinsawdd oer; y byd ysbrydol dan warchae a ‘llanw ffydd ar drai’; bod yn agored i wres y Goleuni, a’i weld mewn eraill.

Cydgerdded.

Tystiolaethu i ffydd y gallwn adnabod bodolaeth y Dwyfol drwy gymdeithas, mewn heddwch ac yn gyfiawn. Amcannu at fyd heb ymerodraethau na chynni na chyffion.

Creu sydd yn ‘codi o’r dwfn’ ac yn ein cydio at ein gilydd. Gweld yr ‘haul tu hwnt i’r haul’. Clywed cathl mewn bytheiriad a’i dynnu atom. Taenu rhwydwaith ddirgel, a rhoi cymorth i bobl adnabod eu gwir hunain, yn hyderus a chyfoethog.

Chwilio am y Gwir Ystyr, ac nid dim ond mewn ffurfiau a geiriau, yn gweu drwy Ymchwil eraill a ddont, o bosib, o gyfeiriadau gwahanol.

Byw.

bottom of page