top of page

addoli

Ty Cwrdd y Cyfeillion, Pen y Bont.

Mae'n bosib y cewch hi'n hawdd ymlacio, neu efallai y bydd dieithrwch y distawrwydd yn aflonyddu arnoch, a'ch meddyliau'n crwydro. Peidiwch â phoeni am hyn, ond dychwelwch drachefn a thrachefn at ganolbwynt tawel eich bywyd mewnol.

Mae'r Cyfarfod i Addoli yn dechrau pan fo rhai yn eistedd ac yn ymdawelu. Mae'r addoliad yn ddistaw yn yr ystyr nad oes dim wedi ei drefnu ar ei gyfer. Fel y distawa'r cyfarfod mae'r ymwybyddiaeth o'r ysbrydol yn cynyddu. Mae hyn yn amrywio'n sylweddol o berson i berson, yn ddibynnol ar eu cyflwr a'u profiad. Yn raddol, lleiha'r dwndwr beunyddiol a bydd yr addolwyr yn aros yn ddistaw am 'lais Duw' oddi mewn.

 

O bryd i'w gilydd fe fydd rhywun yn teimlo fel rhannu eu profiad, ac fe all y byddan nhw'n siarad, yn fyr, wrth y cyfarfod cyfan. Torrir ar y distawrwydd am ychydig ond nid yw'n cael ei atal.

 

Sail cwrdd y Crynwyr yw distawrwydd, ond distawrwydd o aros disgwylgar ydyw. Efallai y bydd distawrwydd am rai munudau neu am awr, ond nid yw hyn yn golygu nad oes dim yn digwydd. Mae pawb yn ceisio dod yn nes at ei gilydd ac at ysbryd byw y cyfarfod.

 

Daw'r cyfarfod i ben wrth ysgwyd llaw. Peidiwch a diflannu wedi 'r cyfarfod; cyflwynwch eich hun a holwch unrhyw gwestiwn am y profiad.

bottom of page