top of page

mmm ... ?

Tua'r Tarddiad

casgliad o sylwadau, myfyrdodau a hanesion gan ac am Grynwyr Cymru. Cyhoeddwyd yn 2014, ac ar gael o siopau llyfrau, neu copi i'w fenthyg gan gyfarfodydd lleol.

Ein ffydd i'r dyfodol

Taflen gan Gyfarfod Crynwyr Prydain am sut mae'r Gymdeithas yn edrych ymlaen i'r dyfodol. yma

Beth yw'r Crynwyr?

Cymdeithas a sefydlwyd yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, gyda'r berw cymdeithasol a chrefyddol y pryd hwnnw yn esgor ar nifer o grwpiau eitha chwyldroadol oedd yn awyddus i weld eu bywydau yn dystiolaeth i'w ffydd.

 

Beth mae'r Crynwyr yn ei gredu, felly? 

Dyw'r Crynwyr ddim yn diffinio eu hunain yn ôl eu cred - mae na lygedyn bach o oleuni dwyfol ynddo ni i gyd, ac mae'n dod i'r golwg mewn amryfal ffyrdd - pwy sydd i ddweud fod un dehongliad yn 'gywir' a'r llall ddim? 

 

Beth ydi'r pwynt felly?

Ceisio byw ein bywyd yn driw i'r datguddiad hwnnw. Mae'r Crynwyr wedi bod yn flaenllaw dros y blynyddoedd mewn mudiadau cymdeithasol, dileu caethwasiaeth, heddychiaeth a chynnal tystiolaeth dros frawdgarwch.

 

Oes na groeso i bawb?

Oes, wrth gwrs, o ba bynnag enwad, eglwys, grefydd ac o ddim crefydd. Mae nifer o Grynwyr hefyd yn aelodau o gyrff crefyddol eraill, ac yn dathlu yr hyn sydd gennym yn gyffredin.

Cynghorion a Holiadau

Cyfres o holiadau o gyfnod cynnar cythryblus yn hanes y Gymdeithas, a dros y blynyddoedd fe ddatblygodd yn ffynhonell o ddoethineb ac ysbrydolrwydd, ar ffurff ymholiad yn hytrach na datganiad. Mae'n ddisgyblaeth ddefnyddiol iawn o hyd.

cewch hyd iddo yma

(mae'r Gymraeg 1.03 yn dilyn y Saesneg 1.02)

Quaker Faith & Practice: casgliad helaethach o gynghorion, sylwadau ac arfer da ymhlith aelodau'r Gymdeithas dros y cenedlaethau. Fersiwn arlein yma.

bottom of page