top of page

ydi crynwyr yn gristnogion?

dyma farn un dyn...

Mae Cynghorion a Holiadau (rhif 4) yn dweud:

Gwreiddiwyd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion mewn Cristnogaeth a chafodd ysbrydoliaeth yn wastad o fywyd a dysgeidiaeth Iesu. Pa fodd y dehonglwch eich ffydd yng ngoleuni’r dreftadaeth hon? Pa fodd y llefara Iesu wrthych heddiw? A ydych yn dilyn esiampl Iesu o gariad ar waith? A ydych yn dysgu o’i fywyd realiti a chost ufudd-dod i Dduw? Pa fodd y mae ei berthynas â Duw yn eich herio a’ch ysbrydoli?

Ond mae rhif 7 yn dweud:

Ymglywch ag ysbryd Duw ar waith yng ngweithgareddau cyffredin a phrofiad eich byw beunyddiol. Pery addysg ysbrydol gydol bywyd, yn aml mewn ffyrdd annisgwyl. Ceir ysbrydoliaeth o’n hamgylch ym mhobman, ym myd natur, yn y gwyddorau a’r celfyddydau, yn ein gwaith a’n cyfeillgarwch, yn ein gofidiau fel yn ein llawenydd. A ydych yn agored i oleuni newydd, o ba ffynhonnell bynnag y dêl? A ydych yn ddetholgar wrth ystyried syniadau newydd?

Mae Crynwriaeth wedi tarddu o'r traddodiad Cristnogol, ac mae ieithwedd a thrafodaeth y Gymdeithas wedi adlewyrchu hynny dros y blynyddoedd. Erbyn heddiw mae'r drafodaeth honno yn rhoi llai o bwys ar ddiwinyddiaeth a mwy ar weithredu ac ymchwil ysbrydol.

Yn ddiweddar, mewn gwlad lle mae crefydd ar drai, mae cynnydd wedi bod yn y rhai sy'n dod i Grynwriaeth a oedd yn agnostig, yn anffyddwyr neu o grefyddau eraill. Mae'r drafodaeth, weithiau, yn cael ei mynegi mewn geiriau newydd, ond yr un yw'r hanfodion.

bottom of page