Mae hwn yn boster PDF maint A4 - mae croeso i chi ei lawrlwytho a'i basio ymlaen i eraill, neu ei roi ar y wal yn eich Cyfarfod, ayb.
Mae rhestr yma o gyfarfodydd eraill ar draws Ewrop sydd yn dod ynghyd arlein.
Cliciwch yma i wybod mwy am Zoom.
Os nad ydach chi'n gyfarfywdd â defnyddio Zoom - mae croeso i chi gysylltu â ni ymlaen llaw, ac hefyd sylwch ein bod ni'n bresennol am hanner awr cyn y cyfarfod i helpu ac am sgwrs.
Gan fod ein dolen yn newid o bryd i'w gilydd, fe fyddwn yn danfon y ddolen berthnasol i bawb diwrnod neu ddau cyn y cyfarfod, a dyna pam mae'n bwysig fod ar y rhestr ebost.
Mae Crynwyr Cymraeg yn gyfle i gysylltu siaradwyr Cymraeg (a dysgwyr) a'i gilydd, o bedwar ban byd, o bosib. Mae hwn yn gyfle i bobl sydd yn ei chael yn anodd i fynychu cyfarfod, neu sydd eisiau cyfle i Grynwra yn Gymraeg.
Ein prif weithgaredd yw cyfarfod i addoli ar Zoom, gan rannu ein distawrwydd, ac yn aml ymateb i gerdd, ddelwedd neu hanes sydd wedi ei rhanu drwy'r cyfrwng. Mae croeso i bawb o bob man, boed ymwelydd am y tro cynta, neu Gyfaill profiadol o gyfarfod pell.
Bob nos Iau cyntaf a’r trydydd o’r mis.
Drws yn agor am 7.00
cyn ymdawelu am 7.30
cyfarfod byr anffurfiol
addoliad distaw am ryw 20 munud ar sail thema (dyfyniad, delwedd, ayb.)
sgwrs wedyn i ymateb a rhannu profiad
i wybod mwy, ac i dderbyn dolen Zoom y cyfarfod
Trefnir Crynwyr Cymraeg gan Gyfarfod Crynwyr Pwllheli.
CYFARFODYDD
AM Y MISOEDD NESA
Ionawr 7 21
Chwefror 4 18
Mawrth 4 18
Crynwyr Cymraeg is an informal online opportunity to worship and to share in Welsh, whoever you are, wherever you live. All are welcome, though the discussion is, of course, in Welsh. Queries regarding voacubulary, idioms and turns of phrase can be disscreetly raised in the Chat facility where one of us will keep an eye open. If you - or firnends - would like to know more, please email to the above address.
Cyfle i gyd-gyfarfod i addoli yw hwn yn null arferol y Crynwyr i bobl na fyddai'n neu'n medru, neu'n hwylus i wneud hynny yn y cnawd.
Ein bwriad yw i drefnu cyfarfodydd eraill, fwy sgwrslyd, o bryd i'w gilydd
- i bobl sydd eisiau gwybod mwy am Grynwriaeth
- i drafod materion ac ymgyrchoedd o bwys cyfoes ac oesol
Fe welwch chi mai ar safle Crynwyr Pwllheli mae'r dudalen hon ar hyn o bryd, tra'n bod ni'n cwblhau safle we ei hun, gydag adnoddau gweinyddu rhestrau cyfeiriad ebost a chyfle i dderbyn a dosbarthu dogfennau (a fydd hefyd yn asio â safle we Crynwyr Cymru wrth i hwnnw gael ei ddatblygu).